Lladd-dy'n ailagor wedi 27 mlynedd
- Cyhoeddwyd

Mae lladd-dy yng Ngwynedd oedd wedi gorfod cau yn dilyn trychineb atomfa Chernobyl yn Rwsia 27 mlynedd yn ôl wedi ailagor.
Mae'r busnes, sydd wedi bod yn nwylo teulu Evan Roberts am ganrif a mwy bellach yn cyflogi tri o staff rhan amser.
Dywedodd Mr Roberts bod rheoliadau diweddar yn golygu bod angen diweddaru'r safle yng Nghwm Cynfal ger Trawsfynydd.
Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru fod dirfawr angen mwy o ladd-dai yn lleol.
Dywedodd Mr Roberts wrth BBC Radio Cymru: "Mae hi wedi cymryd deng mlynedd i mi wneud yr holl waith i gwrdd â'r rheoliadau presennol.
"Fe fyddwn ni'n medru prosesu rhwng 200 a 300 o ŵyn bob wythnos. Anifeiliaid lleol fydd y rhain - be well na chig oen Cymreig?
"Mae fyny i'r ffermwyr ddod yn ôl atom nawr, ond wedi dweud hynny rydym eisoes wedi gweld cwsmeriaid yn dychwelyd - rhai oedd yn ein defnyddio ni yn y 1960au hyd yn oed wedi dod yn ôl."
Dywedodd Gwyn Williams o Undeb Amaethwyr Cymru bod y datblygiad yn newyddion gwych i ddiwydiant sydd wedi diodde'n enbyd oherwydd safleoedd yn cau dros y blynyddoedd.
"Mae lladd-dai wedi diodde' oherwydd prisiau'n codi a biwrocratiaeth, a dim ond llond llaw sydd ar ôl yng Nghymru bellach," meddai.
Ychwanegodd bod ffermwyr wedi gorfod cludo'u hanifeiliaid i Preston yn Sir Gaerhirfryn neu Lanybydder yn Sir Gâr oherwydd y diffyg lladd-dy yn y gogledd.
"Mae hyn yn annerbyniol ac yn gwneud dim synnwyr," meddai.
"Mae llywodraethau'n dweud eu bod am gwtogi'r milltiroedd y mae'n rhaid i fwyd deithio, ond yn gwneud dim i helpu.
"Maen nhw'n gadael i'r farchnad reoli ei hun, ond mewn gwirionedd fe allai ddefnyddio tipyn o gyfeiriad gwleidyddol."
Cafodd y cyfyngiadau ar symud defaid yn dilyn trychineb Chernobyl eu codi o holl ffermydd Cymru a Lloegr ar Fehefin 1, 2012.
Straeon perthnasol
- 1 Mehefin 2012
- 22 Mawrth 2012
- 22 Mawrth 2012
- 11 Mawrth 2013