Ymchwilio i bennaeth recriwtio

  • Cyhoeddwyd
Vincent Tan a Malky MackayFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae sibrydion nad yw'r berthynas rhwng perchennog y clwb, Vincent Tan, a'r rheolwr Malky Mackay yn dda

Ni fydd pennaeth recriwtio dadleuol clwb pêl-droed Caerdydd yn gweithio i'r clwb wrth i'r Swyddfa Gartref ymchwilio i sefyllfa ei drwydded waith, yn ôl adroddiadau

Cafodd Alisher Apsalyamov, 23 oed o Kazakhstan, ei benodi fel olynydd i Iain Moody - cyfaill agos i'r rheolwr Malky Mackay a gafodd ei ddiswyddo'n gynharach yn y mis gan y perchennog Vincent Tan.

Roedd y newid wedi arwain at sibrydion y gallai Mackay adael y clwb yn ystod eu tymor cyntaf yn Uwchgynghrair Lloegr.

Mae'r adroddiadau ddydd Iau yn awgrymu bod Apsalyamov wedi cael cais i sefyll o'r neilltu am y tro, ond y bydd yn cadw'r swydd tra bod yr ymchwiliad i'w ddogfennau'n parhau.