Bwrdd o dan y lach
- Cyhoeddwyd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi ymddiheuro ar ôl dweud wrth ddynes ei bod wedi camesgor babi yn y groth er fod y babi yn holliach.
Daeth y camgymeriad i'r amlwg pan aeth Emily Wheatley am sgan i ysbyty arall.
Fe ddywedodd Ms Wheatley fod y profiad wedi bod yn un erchyll.
Fe ddywedodd Peter Tyndall, yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus fod y camgymeriad wedi ei wneud am fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi methu dilyn canllawiau oedd yn nodi fod angen cynnal dau sgan pan fod deiagnosis o gamesgor tawel neu 'silent miscarriage' yn cael ei wneud - sef pan mae dynes yn colli ffoetws yn y groth yn ddiarwybod iddi.
'Annerbyniol'
Dywedodd Mr Tyndall: "Mae'n gamgymeriad annerbyniol. Roedd y canllawiau yn eu lle a petaen nhw wedi eu dilyn fe fyddai wedi sicrhau na fyddai camgymeriadau wedi cael eu gwneud.
"Felly methiant i weithredu'r canllawiau yn gywir oedd hwn. Yn wir - doedd y canllawiau heb gael eu gweithredu yn gywir tan i ni gysylltu gyda nhw a'u cynghori i wneud hynny yn ystod ein hymchwiliad."
Mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro am yr hyn a ddigwyddodd gan ddweud ei fod wedi creu sefyllfa oedd yn "ddifrifol o anghywir" i Emily Wheatley.
Dyw'r bwrdd ddim yn medru dweud ar hyn o bryd faint o ferched eraill sydd wedi derbyn yr un diagnosis anghywir o sgan unigol yn ystod y cyfnod pan yr oedd y canllawiau anghywir mewn grym yn yr ysbyty.
Llinell gymorth
Dr George Findlay ydi Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant a Merched y bwrdd iechyd a dywedodd:
"Rydw i wedi cynnig ymddiheuriad llawn yn bersonol iddi.
"Rydym wedi cynnig i gyfarfod â hi ac rwyf yn gobeithio gwneud hynny'r wythnos nesaf. Rwyf yn anhapus ein bod wedi siomi y ddynes yma.
"Dwi wedi fy siomi hefyd ein fod o bosib wedi dychryn llawer o ferched eraill ac fe hoffwn eu cysuro drwy ddweud y byddwn yn edrych ar eu gofal, ac fe fydd y gofal yna yn y dyfodol yn safonol ac o'r radd flaenaf."
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi sefydlu llinell gymorth i ferched sydd yn poeni eu bod wedi cael eu trin mewn ffordd debyg i Emily Wheatley ac fe fydd y llinell ar agor dros y penwythnos a ddydd Llun hefyd.
Rhif ffon y llinell gymorth ydi 0800 9520244.
Adolygiad
Ychwanegodd yr Ombwdsmon ei fod wedi ei siomi nad oedd y bwrdd iechyd wedi darganfod y camgymeriad pan wnaeth Emily Wheatley gwyno yn gyntaf nôl ym mis Gorffennaf 2012.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro does neb wedi eu diarddel na cholli eu swydd o ganlyniad i'r digwyddiad.
Mae'r bwrdd ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o'r gofal sydd yn cael ei gynnig i ferched yn nyddiau cynnar eu beichiogrwydd, ac ar gais y bwrdd iechyd fe fydd Arolygaeth Iechyd Cymru yn edrych yn fanwl ar y materion sydd wedi codi yn sgil achos Emily Wheatley er mwyn cadarnhau fod y materion dan sylw yn cael eu trin yn briodol.
Straeon perthnasol
- 17 Hydref 2013
- 26 Medi 2013
- 5 Medi 2013
- 28 Awst 2013