Cadeirydd Betsi: Cynghorwyr Dinbych eisiau cyfarfod
- Cyhoeddwyd

Mae rhai o gynghorwyr Dinbych wedi gofyn i gadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i amlinellu ei gynlluniau am sut y bydd yn adfer enw da'r bwrdd.
Mae'r bwrdd iechyd sydd yn gwasanaethu Gogledd Cymru gyfan wedi wynebu adroddiadau beirniadol gan Ombwdsmon Cymru.
Maent hefyd wedi bod o dan y lach am y ffordd y gwnaethon nhw ddelio efo'r afiechyd C. difficile yn Ysbyty Glan Clwyd. Dywedwyd yn yr adroddiad hwnnw bod 'na ddiffyg arweiniad a dryswch o ran rheoli o fewn y bwrdd.
Fe ymddiswyddodd y yn sgil y feirniadaeth.
Sylw negyddol
Mae Dr Peter Higson wedi ei benodi fel y cadeirydd newydd ac mae rhai o gynghorwyr Dinbych wedi gofyn iddo drafod ei gynlluniau efo nhw.
Chwech o gynghorwyr sydd wedi arwyddo'r cynnig a fydd yn cael ei ystyried gan y cyngor wythnos nesaf.
Maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi penderfynu gwneud hyn am fod yr ysbyty wedi cael sylw gwael yn ddiweddar.
Maen nhw hefyd yn dweud bod ganddyn nhw bryderon am y bwrdd.
Adfer hyder
Mae'r cynnig yn dweud: "Mi fydden ni yn hoffi iddo esbonio ei gynlluniau am sut y bydd yn gwella enw da'r bwrdd a'r gwasanaethau iechyd yn gyffredinol yng ngogledd Cymru ac yma yn Ninbych.
"Rydyn ni eisiau iddo fo ddweud wrthym ni sut y bydd yn adfer hyder y staff, y cleifion a'r cyhoedd yn lleol."
Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud yn y gorffennol eu bod nhw wedi cymryd camau i ddelio gyda'r problemau ac yn gweithio yn galed i fynd i'r afael gydag unrhyw weindiadau.
Straeon perthnasol
- 27 Mehefin 2013
- 30 Medi 2013
- 13 Awst 2013
- 18 Gorffennaf 2013
- 22 Awst 2013