Trawsnewid hen gapel yn Llanilltud Fawr
- Cyhoeddwyd

Mae capel o'r 13eg ganrif oedd wedi mynd a'i ben iddo yn ailagor fel canolfan i ymwelwyr mewn eglwys yn Llanilltud Fawr wedi cynllun adnewyddu gostiodd £850,000.
Bydd modd gweld croesau Celtaidd yn dyddio nôl dros fil o flynyddoedd yng nghapel Galilea yn eglwys Illtud Sant.
Mae'r cerrig wedi eu glanhau a'u symud i'w cartref newydd fel rhan o gynllun i adrodd rôl yr eglwys yn natblygiad Cristnogaeth ar draws Cymru.
Yn ogystal â darparu gofod i arddangos y cerrig, mae'r cynllun wedi trawsnewid yr hyn a oedd yn adfail heb do i fod yn ganolfan ar gyfer astudio Cristnogaeth Geltaidd.
Agorir y capel yn swyddogol gan aelod hynaf yr eglwys Gladys Kilby am hanner dydd, a bydd Archesgob Cymru y Dr Barry Morgan yn arwain gwasanaeth i ailgysegru'r capel ddydd Sul.
Cafodd un o'r cerrig sy'n cael ei harddangos yn y capel ei hailddarganfod gan Iolo Morganwg yn 1789.
Credir fod Croes Biler yr Abad Samson yn un o'r cerrig arysgrifedig hynaf ym Mhrydain.
Gwnaeth un o'r adeiladwyr fwynhau gweithio ar y capel i'r fath raddau fe benderfynnodd gael tatŵs o ddyluniadau o'r croesau ar ei fraich dde - gan gynnwys dau datŵ yn seiliedig ar groes Samson.
Dywedodd Lee Mayes: "Fe gymrodd e gwpwl o eisteddiadau ac roedd e'n eitha' poenus, ond dwi wir yn ei hoffi ac mae'n wych cael rhywbeth i'm hatgoffa o weithio yma.
"Mae wedi bod yn swydd wych, dwi'n caru hen adeiladau a chewch chi ddim un llawer hŷn na hwn."