Mackay: 'Dim byd yn fy synnu'
- Cyhoeddwyd

Mae rheolwr Caerdydd yn mynnu na fydd y digwyddiadau i ffwrdd o'r cae yn amharu ar berfformiad y tîm yn y gêm ddydd Sul.
Ond mae Malky Mackay wedi cyfaddef na fyddai unrhyw beth sydd yn digwydd o fewn y clwb yn ei synnu o bellach.
Mae Caerdydd yn chwarae yn erbyn Abertawe dros y penwythnos ac mae'r gêm yn un sydd wastad yn denu diddordeb.
'Dim yn fy synnu'
Ond mae'r Adar Gleision wedi denu penawdau yn yr wythnosau diwethaf ar ôl i bennaeth recriwtio'r clwb Iain Moody gael ei wahardd.
Alisher Apsalyamov o Kazakhstan sydd wedi dod i gymryd ei le ond mae 'na ymchwiliad wedi cychwyn i sefyllfa ei drwydded waith.
Pan ofynnwyd i'r rheolwr oes oedd y newyddion yn ei synnu dywedodd: "Does 'na ddim byd yn fy synnu. Mae e jest yn rhywbeth y gall y prif weithredwr ddelio efo. Does 'na ddim byd yn fy synnu."
Ychwanegodd mai ei waith o fydd canolbwyntio ar y chwaraewyr ac nad ydy o am adael i unrhyw beth amharu ar hynny.
Canolbwyntio ar y gêm
Doedd o ddim yn fodlon gwneud sylw am yr adroddiadau bod yr ymosodwr Etien Velikonja wedi ei arwyddo gan y perchennog Vincent Tan heb iddo fo gymeradwyo'r penderfyniad:
"Dw i ddim am siarad am chwaraewyr unigol a'r ffordd maen nhw'n cael eu recriwtio.
"Dw i yma ac mi wnâi ateb unrhyw beth sydd yn ymwneud gyda'r gêm ddydd Sul. Mae'n ddiwrnod rhy fawr i fi, y clwb a'r chwaraewyr i fi ddechrau trafod materion sydd yn digwydd yn y cefndir."
Ond mi wnaeth o bwysleisio yn y gynhadledd newyddion mai fo sydd efo'r gair olaf ynglŷn â phrynu chwaraewyr newydd.
Dywedodd bod y cadeirydd Mehmet Dalman wedi cynnal cyfarfod i sortio'r mater:
"Casgliad hwnna oedd mai fi sydd efo'r gair olaf o ran pwy sydd yn gadael ac yn dod i chwarae i'r clwb pêl-droed. Mi oedd hynny yn rhywbeth nes i wneud yn siwr oedd yn digwydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2013