Tân mewn fflat: Dyn mewn cyflwr difrifol ar ôl disgyn o ffenestr

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn mewn cyflwr difrifol ar ôl iddo ddisgyn o ffenestr fflat oedd ar dân yn Abergele.

Yn oriau man y bore mi gafodd y gwasanaethau brys ei galw i'r safle ym Mhensarn, Abergele.

Llwyddodd y diffoddwyr tân i ddiffodd y fflamau cyn iddo ledaenu i fflatiau eraill.

Ond mae dyn 51 oed wedi cael anafiadau difrifol ac yn yr ysbyty.

Dywedodd y ditectif arolygydd Jonathon Salisbury-Jones o Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw yn cynnal ymchwiliad i gael gwybod beth wnaeth achosi'r tân:

"Mae ymholiadau cynnar yn gwneud i mi gredu bod gan berchennog y fflat dystiolaeth bwysig. Ond yn anffodus mae'n parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty. Mi ydw i fodd bynnag eisiau ychwanegu nad ydyn ni ar hyn o bryd yn edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r tân."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol