Triniaeth feddygol bellach i gapten y Gleision

  • Cyhoeddwyd
Matthew ReesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Mi ymunodd y chwaraewr rygbi gyda'r Gleision ddiwedd tymor diwetha

Mae capten clwb rygbi'r Gleision yn gorfod cael triniaeth feddygol bellach.

Mae hynny yn golygu na fydd Matthew Rees yn dychwelyd i'r clwb am gyfnod. Fis diwethaf mi ddaeth y newyddion ei fod am gael llawdriniaeth ar ei geilliau.

Mi fydd y chwaraewr 32 oed yn derbyn triniaeth bellach yn Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd wythnos nesaf.

Mae Matthew Rees wedi ennill 58 cap dros Gymru. Tan yn ddiweddar roedd yn chwarae dros y Scarlets ond mi ymunodd gyda'r Gleision ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Mae'r clwb wedi dweud ei bod yn parhau i'w gefnogi ac yn edrych ymlaen at y cyfnod pan fydd o yn dod yn ôl i chwarae rygbi.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol