'Awch arbennig' i'r gêm ddarbi

  • Cyhoeddwyd
Michael Laudrup a Malky Mackay
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r ddau reolwr - Michael Laudrup a Malky Mackay - wedi cael profiad helaeth o gemau darbi fel chwaraewyr

Er bod y ddau dîm yn hen gyfarwydd â'i gilydd, y gêm ddarbi rhwng Caerdydd ac Abertawe ddydd Sul fydd y fwyaf erioed.

Dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gwrdd ar lefel uchaf pêl-droed Lloegr, ac mae'r elyniaeth rhwng y ddau glwb eisoes wedi cael ei gymharu i gemau darbi Newcastle/Sunderland a'u tebyg o safbwynt tanbeidrwydd.

Yn ôl rheolwr Abertawe Michael Laudrup, mae ei dîm o dramorwyr ar y cyfan yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd y gêm. Dywedodd:

"Wrth gerdded o gwmpas y ddinas bythefnos cyn y gêm hyd yn oed, roedd pobl eisoes wedi dechrau trafod y gêm yma.

"Mae gen i brofiad go helaeth o gemau darbi, ac mae pob cefnogwr yn teimlo bod y gêm ddarbi yn un arbennig iawn."

'Awch arbennig'

Chwaraeodd Laudrup i Lazio yn erbyn Roma yn yr Eidal, Real/Atletico Madrid a Barcelona/Espanyol yn Sbaen.

Dyma fydd y tro cyntaf i Gaerdydd ac Abertawe gwrdd ers Chwefror 2011. Craig Bellamy sicrhaodd y tri phwynt i'r Adar Gleision yn y Liberty y diwrnod hwnnw, ond Abertawe enillodd y gêm gyfatebol yng Nghaerdydd yn gynharach yn y tymor.

Ychwanegodd Laudrup: "Tair neu bedair gêm cyn y darbi mae'r cefnogwyr yn meddwl am ddim byd ond y darbi.

"Dyna sy'n bwysig i bob cefnogwr a dyw cefnogwyr Caerdydd ac Abertawe yn ddim gwahanol."

Roedd rheolwr Caerdydd Malky Mackay yn cytuno, gan ddweud:

"Nid unrhyw gêm arall yw hon. Dim ond tri phwynt sydd ar gael - dim ond tîm arall o'r Uwchgynghrair sy'n dod i Gaerdydd, ond mae yna awch arbennig i hon."

'Awyrgylch rhyfeddol'

Chwaraeodd Mackay i Celtic yn erbyn Rangers yn Glasgow, ac fe welodd gerdyn coch yn y gêm wrth i Celtic golli.

"Mae ein cefnogwyr ni'n angerddol, ac mae'r stadiwm yn wych mewn gemau mawr... ond fydd hynny'n ddim i'r hyn fyddwn ni'n ei weld ddydd Sul.

"Fe fydd yr awyrgylch yn rhyfeddol dwi'n siŵr, a dyma beth y mae ein cefnogwyr ni wedi edrych ymlaen ato fwyaf ers y diwrnod y gwnaethon ni sicrhau dyrchafiad."

Fe fyddai buddugoliaeth i Gaerdydd yn eu codi uwchben Abertawe yn nhabl yr Uwchgynghrair.