Cymru 13: Un newid i Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r hyfforddwr Iestyn Harris wedi cyhoeddi un newid i dîm rygbi 13 Cymru ar gyfer eu hail gêm yng Nghwpan y Byd ddydd Sul.
Bydd Cymru'n wynebu'r Unol Daleithiau ar y Cae Ras mewn gêm y mae'n rhaid ei hennill os yw Cymru am gyrraedd rownd yr wyth olaf.
Collodd Cymru eu gêm agoriadol o 32-16 yn erbyn yr Eidal yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn diwethaf.
Sgoriodd Rhodri Lloyd o glwb Wigan gais yn y gêm, ond mae'n colli ei le yn y tîm i Christiaan Roets.
Mae Ross Divorty ac Anthony Walker yn gobeithio cael eu lle ar y cae wedi i'r ddau gael eu gadael allan o garfan Harris i'r gêm gyntaf.
Dywedodd Iestyn Harris: "Rydym wedi cael wythnos dda ac mae'r paratoadau'n mynd yn dda hefyd.
"Mae angen gweithio ar un neu ddau o bethau - roedden ni ychydig yn araf yn erbyn yr Eidalwyr - ond mae'r bois yn dechrau glynu at ei gilydd ar ôl pythefnos.
"Mae rygbi 13 yn gêm o fanylion, a doedden ni ddim cweit arni yn y gêm gyntaf. Rwy'n disgwyl y bydd pethau'n well y penwythnos yma ac y bydd ein hymosod yn llawer mwy llyfn a threiddgar.
"Os lwyddwn ni i fod yn fwy cyson yn erbyn yr Unol Daleithiau, yna mi allwn ni herio unrhyw un."
Enillodd yr Unol Daleithiau eu gêm gyntaf nhw o 32-20 yn erbyn gwrthwynebwyr nesaf Cymru, Ynysoedd Cook, ym Mryste ddydd Mercher.
Straeon perthnasol
- 26 Hydref 2013
- 26 Hydref 2013
- 21 Hydref 2013
- 30 Medi 2013