Gwrthdrawiad: Tri yn sownd mewn car

  • Cyhoeddwyd

Mae tri pherson wedi bod yn sownd yn eu cerbyd yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ym Mhowys.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i barc carafannau Bryn Fyrnwy ger Llansanffraid-Ym-Mechain ychydig wedi 3:00pm ddydd Gwener.

Roedd y car wedi ei adael mewn sefyllfa fregus uwchben arglawdd ar y safle.

Bu criwiau o'r Gwasanaeth Tân ac Achub o Lanfyllin a'r Trallwng yn defnyddio offer arbennig i dorri'r bobl o'r cerbyd.

Maen nhw wedi llwyddo i ryddhau dau, ond mae un yn dal yn sownd.

Cafodd Ambiwlans Awyr Cymru ei alw i'r digwyddiad, ac fe wnaeth y criw drin dwy fenyw yn y fan a'r lle cyn eu cludo mewn ambiwlans ar y ffordd i Ysbyty Amwythig.

Does dim manylion wedi eu cyhoeddi eto am gyflwr y tri pherson.