Carchar am storio teiars aeth ar dân
- Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu am chwe mis am storio teiars heb drwydded amgylcheddol berthnasol.
Roedd cwmni Globally Greener Solutions wedi storio'r gwastraff mewn adeilad yn Fforest-fach ger Abertawe, ac fe aeth yr adeilad ar dân ym Mehefin 2011.
Bu'r tân yn llosgi am 23 diwrnod, ac fe fu 58 injan dân a 45 o ddiffoddwyr ar y safle yn ceisio'i ddiffodd.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Scott Phillips, 44 oed o Fryncoch, a Peter Thomas, 66 oed o Benlan, wedi cyfaddef iddyn nhw storio gwastraff teiars heb drwydded rhwng Mawrth a Thachwedd 2008.
Yn ystod y gwrandawiad dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (Asiantaeth yr Amgylchedd ar y pryd) wedi cael clywed am y storfa, a bod cynllun wedi ei baratoi ganddyn nhw a'r gwasanaeth tân rhag ofn y byddai tân yno.
Achos mwyaf tebygol y tân ar Fehefin 16, 2011, oedd "cynnau o ffynhonnell ddamweiniol gan berson anhysbys".
Roedd cannoedd o dunelli o wastraff cymysg mewn adeilad arall gerllaw oedd hefyd yn eiddo i Globally Greener Solutions, ac yn ôl yr erlynydd Nicholas Jones roedd hynny wedi ychwanegu at y risg o dân.
Fe gostiodd yr ymgyrch i ddiffodd y tân £1.6 miliwn.
Wrth ddedfrydu Phillips a Thomas i chwe mis o garchar, dywedodd y Barnwr Paul Thomas:
"Roedd cyfrifoldeb sylweddol ar ysgwyddau'r ddau ohonoch.
"Roedd y ddau ohonoch yn pledio anwybodaeth, ond nid yw hynny'n esgus ac yn wir wrth droseddu mae'n gwaethygu'r mater.
"Dim ond dedfryd o garchar y gellir ei hystyried. Does dim lle i ddiofalwch yn y maes yma."
Straeon perthnasol
- 17 Mehefin 2013
- 31 Ionawr 2012
- 26 Tachwedd 2011
- 18 Hydref 2011
- 29 Awst 2011