A470 ar gau wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae'r A470 wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad yn dilyn gwrthdrawiad difrifol.
Bu dau gerbyd a lori mewn gwrthdrawiad â'i gilydd rhwng Llanbrynmair a Glantwymyn.
Mae'r holl wasanaethau brys ar y safle. Nid yw'r heddlu ar hyn o bryd yn medru cadarnhau am ba hyd y bydd y ffordd ar gau.
Cafodd menyw yn ei 30au ei thorri'n rhydd o'i cherbyd. Roedd ganddi anafiadau difrifol ac fe gafodd ei chludo gan hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Roedd dau blentyn hefyd yn y car, ac er iddyn nhw hefyd gael eu hanafu roedden nhw wedi llwyddo i ddod o'r car.
Fe gawson nhw'u cludo i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ynghyd ag oedolyn arall oedd wedi cael anaf.
Roedd pedwar ambiwlans ar y safle ynghyd â'r Ambiwlans Awyr, a bu diffoddwyr o Fachynlleth a'r Drenewydd yn cynorthwyo i dorri'r fenyw o'i cherbyd.
Mae arwyddion yn eu lle i gyfeirio traffig ar hyd ffyrdd eraill.