Ymchwilydd twyll yn euog o dwyllo
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth menyw oedd yn gweithio fel ymchwilydd twyll i'r Adran Gwaith a Phensiynau gynorthwyo'i gŵr i dwyllo'r trethdalwr o £885,000.
Roedd Elizabeth Lewis, 38 oed o Porth, y Rhondda, wedi 'glanhau' peth o'r arian y gwnaeth ei gŵr Mark, 40 oed, hawlio ar gam o Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Clywodd Llys y Goron Abertawe ei fod wedi hawlio Cymorth Rhodd ar roddion ffug i elusen oedd yn cynorthwyo i anfon plant difreintiedig ar wyliau.
Cafodd Lewis ei garcharu am bedair blynedd, ac fe gafodd ei wraig ddedfryd o garchar wedi'i ohirio.
Elusen ffug
Dywedodd y Barnwr Huw Davies fod hwn yn achos rhyfedd gan fod o leia' peth o'r arian wedi mynd at achosion da.
Clywodd y llys fod Elizabeth Lewis wedi prynu dau dŷ a defnyddio mwy o arian wrth i'r gŵr gymryd arno ei fod yn rhedeg elusen.
Ond elusen ffug oedd y Welsh International School of Climbing and Mountaineering yn ôl yr erlynydd Laurence Jones.
Wedi rhyw ddeufis roedd yr elusen wedi rhoi'r gorau i gasglu rhoddion, ond yn cymryd arni ei bod wedi derbyn miliynau o bunnau.
O ganlyniad roedd yn derbyn Cymorth Rhodd - cyfanswm o £885,711 rhwng 2006 a 2010.
Ymchwiliad
Mae Cymorth Rhodd yn cynyddu gwerth rhoddion i elusennau er mwyn iddyn nhw fedru hawlio treth yn ôl.
Plediodd Mark Lewis yn euog o wneud datganiadau ffug ac o lanhau arian.
Fe gafwyd ei wraig yn euog o bedwar trosedd o lanhau arian.
Carcharwyd Lewis am bedair blynedd ac fe gafodd ei wraig, sydd bellach wedi colli ei swydd, ddedfryd o 18 mis yn y carchar wedi'i ohirio am ddwy flynedd.
Mae ymchwiliad Enillion Troseddol wedi dechrau er mwyn canfod faint o'r arian y gellid ei atafael.