Canlyniadau Uwchgynghrair Pêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd

Bangor 4-1 Gap Cei Connah
Dim ond un gêm gafodd ei chynnal yn Uwchgynghrair Cymru nos Wener gan i'r gêm rhwng y Bala ac Aberystwyth gael ei gohirio oherwydd y tywydd.
Yn yr un gêm a chwaraewyd, daeth buddugoliaeth arall i Fangor wrth i'w tîm ifanc nhw ddechrau mynd ar rediad da.
Dim ond un o'r ceffylau blaen - Airbus UK Brychdyn - sydd wedi curo Bangor yn eu pum gêm ddiwethaf bellach yn dilyn buddugoliaeth y Dinasyddion o 4-1 yn erbyn Gap Cei Connah yn Stadiwm The Book People nos Wener.
Yr ymwelwyr aeth ar y blaen diolch i gôl gan Mike Hayes wedi dim ond tri munud.
Ond fe ddaeth dwy o fewn munud i Fangor - Les Davies yn unioni'r sgôr wedi deng munud a Sion Edwards yn eu rhoi ar y blaen wedi unarddeg.
Ychwanegodd Jamie Petrie'r drydedd i Fangor wedi 62 munud ac wedi 71 munud roedd hi'n bygwth bod yn chwalfa pan sgoriodd Edwards ei ail yn y gêm.