Dreigiau 19-23 Leinster
- Cyhoeddwyd

Dreigiau 19-23 Leinster
Colli fu hanes y Dreigiau ar Rodney Parade nos Wener er gwaethaf ymdrech ddewr yn erbyn Leinster.
Er gwaethaf pwysau mawr ar amddiffyn y Dreigiau yn yr hanner cyntaf, dim ond ciciau cosb oedd gwobr yr ymwelwyr am eu hymdrechion.
Ond roedd ymateb y Dreigiau yn wych. Yn dilyn gwrth ymosodiad gan Richir Rees fe groesodd Ross Wardle am gais ardderchog yn y gornel, a gyda throsiad Jason Tovey y Dreigiau oedd ar y blaen ar yr egwyl o 13-6.
Fe gostiodd diffyg disgyblaeth yn ddrud i'r tîm cartref am gyfnod wedi'r egwyl.
Wrth i Adam Jones dreulio deng munud yn y cell cosb, fe sgoriodd Leinster ddau gais eu hunain i fynd ar y blaen o 23-13.
Wedi i Jones ddychwelyd fe frwydrodd y Dreigiau yn ôl gyda dwy gôl gosb i ddod o fewn pedwar pwynt i Leinster, ac erbyn hynny roedd un o'r Gwyddelod yn y cell cosb.
Daeth cyfle gwych i'r Dreigiau ennill y gêm yn y funud olaf yn dilyn cyfnod o bwyso ger llinell gais yr ymwelwyr, ond yn dilyn camgymeriad wrth drafod y bêl daeth yr ornest i ben.