Seiclo: Dwy aur ac un arian i'r Cymry
- Cyhoeddwyd

Roedd Elinor Barker yn rhan o'r tîm a gipiodd fedalaur
Bu'n ddiwrnod ardderchog i'r Cymry ym mhencampwriaethau seiclo trac y byd ym Manceinion.
Roedd Elinor Barker yn rhan o dîm y merched a dorrodd record y byd ddwywaith wrth gipio'r fedal aur yn y ras ymlid.
Aelodau eraill y tîm oedd Laura Trott, Dani King a Joanna Rowsell.
Efelychwyd camp y merched gan dîm y dynion oedd yn cynnwys y Cymro Owain Doull.
Enillodd y dynion y fedal aur yn y ras ymlid gyda buddugoliaeth yn erbyn Awstralia yn y rownd derfynol, gydag Ed Clancy, Andy Tennant a Steven Burke yn gyd-aelodau i Doull.
Yn y ras wibio i ferched, roedd Becky James yn y tîm o ddwy a gipiodd fedal arian gan golli i'r Almaen yn y rownd derfynol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2013