Digwyddiad i gofio am Chelsea Manning
- Cyhoeddwyd
Mae digwyddiad yn cael ei gynnal yn Wrecsam i annog pobl i gofio am Chelsea Manning (Bradley Manning gynt) a garcharwyd yn yr UDA am 35 mlynedd am ryddhau gwybodaeth i wefan Wikileaks.
Cafwyd y milwr Americanaidd 25 oed yn euog o 20 o droseddau wedi i ddogfennau cyfrinachol ymddangos ar y wefan.
Cynhelir y digwyddiad yn y Cae Ras i gyd-fynd â'r gêm rygbi 13 rhwng Cymru a'r UDA yng Nghwpan y Byd.
Mae trefnwyr y digwyddiad yn Wrecsam hefyd yn codi arian i gynorthwyo aelodau teulu Chelsea Manning sy'n byw yng Nghymru gyda'r gost o ymweld â hi yn y carchar yn Kansas.
Straeon perthnasol
- 21 Awst 2013
- 30 Gorffennaf 2013