Fleetwood 4-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Fleetwood 4-1 Casnewydd
Roedd hi'n fuddugoliaeth ysgubol i Fleetwood wrth i David Ball ergydio'r bedwaredd 13 munud cyn y diwedd.
Ar ôl dim ond dwy funud cafodd Robbie Willmott o Gasnewydd y garden goch am lawio'r bêl.
Funud yn ddiweddarach llwyddodd Steven Schumacher gyda'i gic o'r smotyn.
Roedd yn 1-0 ar yr egwyl.
Yn yr ail hanner agorodd y llifddorau, Schumacher yn tanio i gornel chwith y gôl cyn llwyddo gyda'i gic o'r smotyn.
Yn y 70fed funud llwyddodd Chris Zebroski o Gasnewydd gyda'i gic o'r smotyn.