Cludo teithiwr fferi i'r ysbyty
- Cyhoeddwyd
Cafodd teithiwr ar long fferi o Ddulyn i Lerpwl ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi iddo ddisgyn.
Cafodd y dyn anafiadau i'r ben a'i wyneb ar ôl disgyn ar fwrdd y llong mewn gwyntoedd cryfion.
Roedd llong cwmni P&O, Norbay, yn teithio i Lerpwl pan ddisgynnodd y dyn.
Cafodd hofrennydd yr Awyrlu o'r Fali ei alw at y dyn, ac fe'i cludwyd i'r ysbyty ychydig wedi 5:00am fore Sul.