Paratoi am y gêm ddarbi fawr

  • Cyhoeddwyd
Swansea and Cardiff celebrateFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,
Hon yw'r gêm ddarbi gyntaf rhwng Caerdydd ac Abertawe yn yr Uwchgynghrair

Mae Caerdydd ac Abertawe yn paratoi am y gêm bêl-droed gyntaf rhwng y ddau ar y lefel uchaf brynhawn Sul.

Mae disgwyl 27,000 o gefnogwyr i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer y gic gyntaf am 4pm.

Bydd Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn plismona gorsafoedd rheilffordd ar hyd prif lein y de fel rhan o fesurau diogelwch i osgoi trafferth.

Mewn gorsafoedd lle nad oes camerau cylch cyfyng, fe fydd swyddogion yn gwisgo camerau personol, ac fe fydd plismyn hefyd yn teithio ar y trenau.

Dywedodd yr Uwch-Arolygydd Andy Morgan o BTP: "Ni ddylai cefnogwyr boeni o weld mwy o blismyn ar y trenau ddydd Sul.

"Mae cyfyngiadau ar deithio mewn lle i gefnogwyr Abertawe, ond fe fydd trenau i mewn ac allan o Gaerdydd yn brysur fel ar gyfer unrhyw gêm gartref arall.

"Mae cael plismona amlwg yn gymorth i dawelu ofnau teithwyr eraill a staff y rheilffordd."

Mae'r system 'swigen' wedi cael ei gweithredu mewn gemau blaenorol rhwng y ddau glwb - system lle mae cefnogwyr yr ymwelwyr ond yn derbyn eu tocynnau os ydyn nhw'n teithio ar fysiau swyddogol sy'n cael eu hebrwng i'r stadiwm.

Dyma'r 106ed gêm ddarbi rhwng Caerdydd ac Abertawe, ond y gyntaf yn Uwchgynghrair Lloegr. Y tro diwethaf i'r ddau dîm gwrdd - yn y Bencampwriaeth - enillodd Abertawe yng Nghaerdydd, ond yr Adar Gleision enillodd ar y Liberty.