Gwahodd ceisiadau am arian busnes

  • Cyhoeddwyd
arian Ewrop
Disgrifiad o’r llun,
Dywed Edwina Hart bod 135 o gwmnïau eisoes wedi elwa o'r gronfa

Mae busnesau llai yng Nghymru wedi cael eu hannog i wneud cais am beth o gronfa o £20 miliwn tuag at dwf a chreu swyddi gan y gweinidog busnes.

Dywed Edwina Hart bod Cronfa Twf Economi Cymru eisoes wedi darparu cymorth i lawer i fusnesau, ac wedi talu £9m i 135 o gwmnïau eleni.

Nod y rhaglen yw ariannu cynlluniau gwerth £100,000.

Ychwanegodd Mrs Hart bod gan y grantiau'r potensial i greu neu warchod 3,000 o swyddi.

Yr amcangyfrif yw bod 980 o swyddi wedi eu creu a bron 800 wedi eu gwarchod gan ran gyntaf y cynllun, ac mae gweinidogion yn rhagweld diddordeb mawr yn y rownd nesaf o geisiadau.

Cyflogi mwy o staff

Un o'r rhai i dderbyn arian y tro cyntaf oedd cwmni G-TEKT - cwmni cydrannau ceir gyda pherchnogion o Siapan.

Mae'r cwmni'n cyflogi 150 o bobl yng Nglyn Ebwy, ac yn cyflenwi cwmnïau Honda a Toyota.

Derbyniodd y cwmni £95,000 er mwyn cyflogi 10 o weithwyr ychwanegol.

Dywedodd dirprwy gyfarwyddwr G-TEKT, Nick Thomas: "Roeddem yn gweld y cyfle i ehangu'r gwaith cynhyrchu yn ein ffatri ar Stad Ddiwydiannol Rasa.

"Diolch i'r buddsoddiad o'r Gronfa Dwf Economaidd rydym nawr yn medru cwblhau'r gwaith yma a chyflogi mwy o staff ar y safle."

Rhagfyr

Dywedodd Mrs Hart: "Rwyf am sicrhau fod gan fusnesau Cymru fynediad at y cyllid sydd ei angen arnyn nhw i greu swyddi ac i dyfu.

"Mae Cronfa Twf Economaidd Llywodraeth Cymru wedi cynnig cymorth i lawer o fusnesau oedd ddim yn medru canfod yr arian o ffynonellau traddodiadol."

Mae gan fusnesau tan Ragfyr 16 i ddangos diddordeb yn y cynllun cyn y bydd ceisiadau ffurfiol yn cael eu derbyn yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd Michael Learmond o Ffederasiwn Busnesau Bach Gogledd Cymru ei fod yn croesawu'r arian, ond y gallai fusnesau wneud gyda mwy o amser i ddatblygu syniadau.

Meddai: "Os oes gennych gynllun sy'n barod i fynd mae popeth yn iawn, ond fe fydd yna fusnesau gyda syniadau sydd angen gwaith arnynt, ac mae angen dyddiad cau yn hwyrach na mis Rhagfyr."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol