Gallai amlosgfa 'atal busnesau'

  • Cyhoeddwyd
Artist's impression of the proposed crematorium in DenbighshireFfynhonnell y llun, Memoria Ltd
Disgrifiad o’r llun,
Dywed y datblygwyr yn byddai'r amlosgfa yn asio gyda'r tirlun

Mae rhai busnesau yn Llanelwy yn rhybuddio y gallai amlosgfa newydd arfaethedig rwystro cwmnïau rhag dod i'r ddinas.

Mae cynlluniau wedi cael eu cyflwyno i godi amlosgfa ar dir yn agos i Barc Busnes Llanelwy yn Sir Ddinbych.

Dywed y datblygwr Memoria Ltd bod angen amlosgfa yn yr ardal gan fod y rhai presennol yn rhy bell i fwrdd ac yn cael trafferth ateb y galw ar adegau prysur o'r flwyddyn.

Ond mae trigolion wedi ffurfio grŵp i wrthwynebu'r cynlluniau, ac mae nifer o fusnesau'n bryderus.

Yn ôl Memoria Ltd fe fyddai'r datblygiad yn asio gyda'r tirlun ar y safle.

'Niweidiol'

Ond dywedodd yr Athro Stuart Irvine o Ganolfan Ymchwil Ynni Solar Prifysgol Glyndŵr - sydd â champws ar y parc busnes - bod rhai cwmnïau'n anhapus.

"Rwy'n gwrthwynebu'r cynllun yma am nad yw'n gyson gyda'r hyn yr ydym yn ceisio'r wneud ym Mharc Busnes Llanelwy, sef denu busnesau technolegol deniadol i'r ardal," meddai.

"Bydd amlosgfa yn niweidiol i hynny. Bydd trafnidiaeth yr amlosgfa yn defnyddio'r un ffordd i'r parc busnes, a dydw i ddim yn credu bod y lleoliad yn un priodol."

Mynnodd Jamieson Hodgson o Memoria Ltd y byddai'r effaith ar y parc busnes yn fach, ac fe fyddai ar wahân i weddill y parc.

Ychwanegodd: "Mae'r rhan fwyaf o bobl yn mynd i'r parc busnes o'r A55 neu o'r dwyrain.

"Felly ni fydd llawer o bobl yn pasio'r safle arfaethedig er mwyn mynd i'r parc."

'Ble mae'r galw?'

Martin Barlow yw cadeirydd Grŵp Trigolion Cefn Meiriadog a Ffordd Glascoed, a dywedodd nad oedd son am amlosgfa yng Nghynllun Datblygu Unedol Sir Ddinbych.

"Mae hwn yn gynllun gwallgof - does dim sail iddo o ran y galw ac mae yn erbyn polisïau cynllunio Cyngor Sir Ddinbych," meddai.

"Bydd yn niweidio un o gymunedau lleol bach yr ardal, sef un o'r rhai y mae Sir Ddinbych yn dweud y mae angen eu gwarchod a'u cynnal.

"Does dim amlosgfa yn y cynllun yna, felly o ble daeth y galw yn sydyn? Mae'r un agosaf ond rhyw 10 milltir i ffwrdd ym Mae Colwyn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol