Merch 16 oed wedi marw wedi damwain
- Cyhoeddwyd

Bu farw merch 16 oed yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori wartheg yn Sir y Fflint.
Cafodd Sarah Jepson ei chludo i'r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad ar yr A5104 ger Penymynydd am tua 6:20yh nos Wener, ond bu farw yno.
Fe'i disgrifiwyd gan ei mam fel merch "garedig, gariadus".
Mae'r heddlu wedi apelio am dystion i'r gwrthdrawiad rhwng lori a char Peugeot 206 pan gafodd y tri person oedd yn teithio yn y car eu hanafu.
Dylai unrhyw un all fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio 101 gan nodi'r cyfeirnod P180604.
Mewn datganiad, dywedodd teulu Sarah Jepson: "Fe gafodd Sarah ei chipio oddi wrthym a does dim y gall unrhyw un ddweud i'n cysuro yn ein colled.
"Roedd Sarah yn llawn bywyd. Roedd yn ferch ddeallus, ac yn garedig a chariadus."
Yn ddiweddar roedd wedi cychwyn ar gwrs Safon Uwch yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy.