A55: Dynes yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaethau brys yn y gogledd wedi delio gyda thri gwrthdrawiad ar yr A55 yn Sir Ddinbych.
Cafodd dynes ei rhyddhau o gar wedi damwain ym Modelwyddan.
Aed â hi i Ysbyty Glan Clwyd ac roedd ei hanafiadau'n ddifrifol.
Roedd un o'r ddau wrthdrawiad arall ar y ffordd orllewinol ac yn ymwneud â dau gar a cherbyd nwyddau mawr, tra bod y llall yn ddigwyddiad llai oedd ar y ffordd tua'r dwyrain.
Y gred yw bod cawodydd cenllysg yn yr ardal ar y pryd yn gwneud amodau gyrru yn anodd.
Cafodd y ffordd ei hail agor am 1yh.