Rhaglen waith: Cymru ar ei hôl hi
- Cyhoeddwyd

Mae ASau yn dweud mai dim ond un mewn naw o bobl yng Nghymru sydd wedi llwyddo i ddarganfod swydd drwy raglen llywodraeth y DU.
Yn ôl y Pwyllgor Materion Cymreig y ffigyrau ar gyfer Cymru yw'r gwaethaf o fewn y DU.
Er nad yw llawer gwaeth na'r cyfartaledd (sef un mewn wyth) mae Cadeirydd y pwyllgor David Davies yn credu bod diffyg hyblygrwydd rhwng gwahanol fentrau sy'n weithredol yng Nghymru yn broblem.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n barod i weithio gyda San Steffan er mwyn galluogi mwy o bobl i sicrhau swyddi.
Arian Ewropeaidd
Yn ystod ei ymchwiliad fe wnaeth y pwyllgor ganfod mai dim ond un mewn naw o bobl wnaeth ymuno â Rhaglen Waith llywodraeth y DU o fewn ei ddwy flynedd gyntaf wnaeth lwyddo i sicrhau gwaith parhaol.
Mae gwaith parhaol yn cael ei ddiffinio fel cytundeb sy'n para o leiaf 13 wythnos.
Un o'r rhesymau dros hyn yn ôl y pwyllgor yw bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu na fyddai pobl sy'n cymryd rhan yn y rhaglen yn gymwys ar gyfer mynd ar gyrsiau oedd wedi eu hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd (UE).
Maen nhw'n credu y byddai caniatáu hynny yn torri rheolau'r UE ar ddwbl-ariannu.
Daeth Llywodraeth yr Alban i'r un penderfyniad ond mae pobl sy'n byw yn Lloegr yn cael mynd ar raglenni ychwanegol - sefyllfa sy'n golygu bod y Cymry dan anfantais yn ôl David Davies AS.
'Diffyg hyblygrwydd'
Dywedodd: "Y mater allweddol yw ei fod yn ymddangos bod diffyg hyblygrwydd o fewn a rhwng gwahanol raglenni sydd wedi eu sefydlu er mwyn cael pobl yn ôl i'r gwaith, a bod y diffyg hyblygrwydd yma yn waeth yng Nghymru.
"Yn amlwg mae'n destun pryder i ni fod y raddfa lwyddiant yng Nghymru y lleiaf ym Mhrydain Fawr.
"Mae'r rhaglen waith wedi ei ddylunio er mwyn rhoi cymorth yn enwedig i bobl sy'n wynebu amryw o anawsterau er mwyn cael swydd neu fynd yn ôl i'r byd gwaith, pobl sydd wedi bod allan o waith am ddwy flwyddyn.
"Y peth diwethaf rydym angen yma yw biwrocratiaeth yn atal pobl rhag gwneud be sydd fwyaf effeithiol."
Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn credu y byddai'n addas galluogi pobl sydd ar y rhaglen waith i fynd ar brosiectau sy'n cael ei ariannu gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.
Angen newid?
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau Ken Skates: "Rydym yn barod i weithio gyda llywodraeth y DU mewn modd adeiladol er mwyn rhoi help i bobl sy'n byw yng Nghymru sy'n chwilio am waith.
"Ond dyw prosiectau sy'n cael eu hariannu gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (CGE) yng Nghymru ddim wedi ei bwriadu ar gyfer ategu rhaglen waith llywodraeth y DU.
"Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cyd-fynd gyda rheol y Comisiwn Ewropeaidd bod arian CGE ddim yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n dyblygu neu gymryd lle rhaglenni craidd y DU."
Mae gan Llywodraeth Cymru raglen waith ei hun - sef Twf Swyddi Cymru - a dywedodd Mr Skates fod y rhaglen yno wedi creu 8,889 o gyfleoedd swyddi hyd yn hyn gyda 7,280 o bobl ifanc yn llenwi'r swyddi hynny.
Dywedodd Geraint Davies - AS Llafur Gorllewin Abertawe - nad yw'n bosib i bobl adael y rhaglen waith Brydeinig er mwyn ymuno a'r un Gymreig a bod hyn yn rhywbeth sydd angen newid.
Mae adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig yn dweud bod angen i'r Adran Waith a Phensiynau alluogi pobl i wneud hyn.
Yn ogystal mae'n dweud bod angen i'r adran a Llywodraeth Cymru ddod i ddatrysiad ynglŷn â'r mater o arian CGE erbyn Chwefror 2014.
'Gwelliant mawr'
Dywedodd Esther McVey ar ran yr Adran Waith a Phensiynau: "Mae gwelliant mawr wedi bod mewn perfformiad ers i'r rhaglen waith ddechrau yn 2011 ac rydym wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod darparwyr yng Nghymru yn parhau i wella'r gwasanaeth mae ceiswyr gwaith yn ei dderbyn.
"Mae darparwyr yn cael eu talu'n ddibynnol ar y canlyniadau maen nhw'n gyflawni felly mae yn niddordeb pawb i helpu gymaint o bobl fewn i'r gwaith ac sy'n bosib.
"Yn fuan mi fyddai'n cyfarfod gyda Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Llywodraeth Cynulliad Cymru, Ken Skates.
"Rydw i eisiau i ni weithio gyda'n gilydd er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl sy'n chwilio am waith yng Nghymru yn cael yr un mynediad at gymorth ac mae pobl yn Lloegr yn ei dderbyn."