Merch ar goll: Heddlu'n apelio
- Cyhoeddwyd

Does neb wedi gweld Stephanie Gabriel ers nos Wener
Mae Heddlu'r De yn gofyn am gymorth y cyhoedd wrth geisio dod o hyd i ferch 14 oed yn ardal Abertawe.
Nid yw Stephanie Gabriel wedi cael ei gweld ers nos Wener pan adawodd cartref ei theulu yn Nhregwyr, Abertawe.
Cafodd ei disgrifio fel pum troedfedd o daldra gyda gwallt melyn hir, ac roedd yn gwisgo siwmper 'hoodie' lliw marŵn.
Dylai unrhyw un sy'n gwybod lle mae Stephanie neu sydd â gwybodaeth am ei lleoliad gysylltu gyda'r heddlu drwy ffonio 101.
Maen nhw hefyd yn gofyn i Stephanie gysylltu gyda'i theulu os fydd yn clywed am yr apêl.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol