Llys: Dyn o Fangor wedi dodi babi mewn bath o ddŵr poeth
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 22 oed o Fangor, ddododd fabi mewn bath o ddŵr poeth, wedi cael ei garcharu am bedair blynedd.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Michael Chambers wedi taflu'r babi yn erbyn wal.
Plediodd yn euog i gyhuddiad o gam-drin plant, ceisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder, ac achosi gwir niwed corfforol.
Clywodd y llys ei fod wedi cam-drin menyw ifanc a phlediodd yn euog i gyhuddiad o fygwth ei lladd.
Alergedd
Dywedodd yr erlynydd Sion ap Mihangel fod y diffynnydd wedi chwistrellu diaroglydd i mewn i wallt y babi er bod ganddo alergedd.
Roedd y babi wedi ei losgi â sigarét a'i wasgu cymaint nes yr oedd yn llefen.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry ei fod yn "fwli" a bod ei ymddygiad yn sadistaidd.
Clywodd y llys fod y fenyw wedi mynd yn anymwybodol am fod Chambers yn ei thagu â hosan.
Dywedodd Dafydd Roberts ar ran yr amddiffyn fod y diffynnydd yn cymryd steroids ar y pryd.