Rhyddhad amodol i gyn ddirprwy bennaeth Ysgol Uwchradd Dinbych

  • Cyhoeddwyd
Llys Ynadon PrestatynFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Roedd yr achos yn Llys Ynadon Prestatyn

Yn Llys Ynadon Prestatyn cafodd cyn ddirprwy bennaeth ysgol ryddhad amodol am ddwy flynedd am ei bod yn euog o dwyll.

Clywodd y llys fod Gwawr Ceiriog, 50 oed o Ddinbych a chyn ddirprwy bennaeth yr ysgol uwchradd leol, wedi dwyn £1,400 oddi wrth berchennog grŵp drama ar Ebrill 26.

Cafodd orchymyn i dalu £1,400 o iawndal i Lowri Wynne a chostau o £100.

Clywodd y llys fod plant yn siomedig iawn fod ymweliad i'r theatr wedi ei ganslo ar y funud ola'.

Arian tocynnau

Roedd eu hathrawes wedi dwyn eu harian tocynnau.

Darllenodd yr erlynydd Nia Lloyd ddatganiad Mrs Wynne ddywedodd: "Dwi'n teimlo'n euog ... am fy mod i wedi penodi'r diffynnydd.

"Ar wahân i brofedigaeth yn y teulu hwn yw profiad gwaetha' fy mywyd."

Dywedodd Roger Thomas ar ran yr amddiffyn fod y diffynnydd yn sylweddoli ei bod wedi siomi pobl ac na fyddai'n gallu gweithio yn y maes.

Y rheswm am y drosedd, meddai, oedd bod ei mab wedi ymhel â chyffuriau.

Roedd wedi bod yn euog o ymosod arni hi ac roedd hi'n ceisio talu ei ddirwy.