Damwain: Menyw yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae menyw yn yr ysbyty wedi damwain rhwng tri cherbyd ym Mhowys brynhawn Llun.
Roedd y ddamwain ar yr A458 yn Nhreberfedd ym Maldwyn.
Cafodd offer arbennig eu defnyddio wrth dorri'r fenyw'n rhydd o'i char.
Ychydig cyn 3.19pm y cafodd diffoddwyr eu galw.
Roedd y ffordd ynghau am oriau.