Twyll: Heddlu yn rhybuddio
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent yn rhybuddio i bobl fod yn wyliadwrus, wedi nifer o achosion o dwyll.
Daw'r rhybudd wedi sawl achos diweddar pan roedd dyn wedi mynd at gartrefi yn y de ddwyrain yn honni ei fod yn cludo ryg i'r tŷ drws nesaf.
Yn ôl yr heddlu mae'r gyrrwr yn honni ei fod angen gadael y ryg yn eu tŷ nhw gan nad yw eu cymydog gartref.
Yna mae'n gofyn iddyn nhw dalu'r arian mae'n honni sy'n ddyledus iddo am y cludiant, gan awgrymu y byddai'r cymydog oedd yn berchen ar y ryg yn talu'r arian yn ôl iddyn nhw'n hwyrach.
Digwyddodd pedwar digwyddiad o'r math yma ar ddydd Iau Hydref 31 yn Abersychan, Cwmcarn, Abercarn a Threcelyn a dau arall ddydd Llun ym Mhont-hir a Phontypwl.
Mae'r dyn sy'n gyfrifol yn cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, tua 25 i 35 oed, yn eithaf cyhyrog, wedi ei eillio'n lan gyda gwallt byr brown sydd efallai yn britho.
Yn ogystal mae'n cario llyfryn sydd â lluniau o wahanol rygiau ynddo.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â heddlu Gwent ar 101.