Michu wedi ei anafu

  • Cyhoeddwyd
Michu
Disgrifiad o’r llun,
Mae'n debyg mai yn Fulham bydd Michu yn chwarae nesaf, ar ôl yr egwyl rhyngwladol

Mae ymosodwr Abertawe Michu yn debygol o fethu dwy gêm nesaf yr Elyrch ar ôl troi ei ffêr wrth chwarae yn erbyn Caerdydd.

Mae gêm nesaf yr Elyrch yn Rwsia yn erbyn Kuban Krasnodar yng Nghynghrair Europa nos Iau, ac fe fyddan nhw'n croesawu Stoke i Stadiwm y Liberty ar ddydd Sul Tachwedd 10.

Dywedodd rheolwr Abertawe Michael Laudrup: "Dyw Michu ddim yn 100% ar hyn o bryd, mae'n cael trafferth gyda phroblemau corfforol."

Mae capten Abertawe Ashley Williams wedi awgrymu mai'r oedi yn dod a'r blaenwr oddi ar y cae oedd yn rhannol gyfrifol am y ffaith fod Abertawe wedi colli.

"Ro'n i'n teimlo y dylai fod wedi dod i ffwrdd, doeddwn i ddim yn gallu gweld be oedd yn digwydd gyda'r eilydd ond ro'n i'n gallu gweld nad oedd o'n (Michu) gallu symud," meddai Williams.

"Fe wnaethon ni ildio o gic gornel ond doedd Michu methu rhedeg yn yr 20 munud cyn hynny hyd yn oed - dydw i ddim yn gwybod be oedd yn digwydd gyda'r eilydd.

"Cafodd ei anafu ac rwy'n credu mai dyna oedd trobwynt y gêm."

Nid Michu yw'r unig un fydd yn absennol yn ystod gemau nesaf yr Elyrch - mae eu gôl-geidwad Michel Vorm wedi ei wahardd am un gêm am iddo dderbyn cerdyn goch yn ystod y munudau olaf ddydd Sul.