Pennaeth bwrdd iechyd i esbonio diswyddiadau
- Cyhoeddwyd

Bydd pennaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ymddangos o flaen Aelodau Cynulliad yn ddiweddarach i egluro ei benderfyniad sydd wedi rhoi cannoedd o swyddi yn y fantol.
Mae angen i'r bwrdd iechyd arbed dros £60 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol yma, a £56 miliwn arall y flwyddyn nesaf.
Ym mis Mehefin, cafodd cynllun ei gyhoeddi i ddiswyddo bron i 400 o weithwyr er mwyn cyrraedd targedau ariannol.
Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud bod y toriadau yn "hurt" tra bod undeb Unsain yn dweud nad yw diswyddiadau yn angenrheidiol.
Arbed arian
Mae'r bwrdd iechyd yn ceisio arbed arian drwy newid y ffordd mae rhai gwasanaethau yn cael eu gweithredu, lleihau'r faint o amser mae cleifion yn aros yn yr ysbyty a cheisio arbed arian drwy fod yn fwy effeithlon.
Bydd aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cael cyfle i holi prif weithredwr y bwrdd, Adam Cairns am ei benderfyniadau yn ddiweddarach.
Mewn llythyr i'r pwyllgor, dywedodd Mr Cairns bod y bwrdd yn wynebu penderfyniadau anodd gan fod 45% o gostau yn deillio o gyflogau staff.
"Er mwyn ymdopi mewn sefyllfa lle nad yw cyllidebau yn cynyddu, ond mae cynnydd mewn cyflogau a dim newidiadau i dermau cyflogaeth, un ai mae rhaid lleihau nifer y gweithwyr neu leihau'r cyflog cyfartalog," meddai.
'Poeni'
Mae undeb Unsain wedi trefnu rali yn erbyn unrhyw ddiswyddiadau yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher, a bydd deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu'r toriadau yn cael ei gyflwyno.
"Mae ein haelodau yn amlwg yn poeni am eu swyddi, ond maent hefyd yn flin bod y bwrdd iechyd wedi gwneud y penderfyniad dianghenraid yma yn lle cyd-weithio i ddatrys y broblem," meddai Mike Jones, ysgrifennydd Unsain dros Gaerdydd a'r Fro.
"Wrth ystyried y straen ar lefelau staffio, mae gennym ni bryderon am effaith y toriadau ar ddiogelwch cleifion.
"Mae staff y GIG yng Nghaerdydd a'r Fro wedi bod yn gweithio'n galed i ymdopi â phwysau cynyddol ar wasanaethau.
"Dylen nhw gael eu cymeradwyo am eu hymrwymiad i'r GIG yn hytrach na phryderu am golli eu swyddi neu doriadau i'w cyflogau."
'Hurt'
Beirniadu'r penderfyniad wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig.
"Mae'n hollol hurt i dorri cannoedd o swyddi ar adeg pan mae rhestrau aros yn tyfu a gofal brys mewn argyfwng," meddai eu llefarydd ar iechyd, Darren Millar.
"Mae adroddiad y bwrdd yn bryderus a bydd yn achos pryder i gleifion."
Er hynny, mae dirprwy bennaeth y bwrdd, Tracy Myhill wedi dweud y bydd ail-drefnu staff, newid gwasanaethau a diswyddiadau gwirfoddol yn lleihau'r angen am ddiswyddiadau gorfodol.
"Erbyn diwedd y flwyddyn, rydym yn hyderus mai ond nifer fach o staff fydd yn wynebu diswyddiad."
Straeon perthnasol
- 27 Mehefin 2013