Cau ysgolion yng Ngheredigion gam yn nes
- Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau i gau pum ysgol gynradd yng Ngheredigion wedi symud gam yn nes wedi i gabinet y cyngor benderfynu dechrau ar gyfnod o ymgynghori.
Bydd yr ymgynghoriad yn ymwneud â chau ysgolion cynradd Tregaron, Llanddewi Brefi, Dihewyd a Trefilan yn ogystal â champws Penuwch ysgol Rhos Helyg.
Mae'r cyngor yn ystyried symud y 43 o ddisgyblion o Landdewi Brefi i Ysgol Uwchradd Tregaron gan fod costau rhedeg yr ysgol yn rhy uchel.
Byddai Ysgol Tregaron yna yn cael ei droi i mewn i ysgol ar gyfer plant 3-16 oed.
'1000 yn llai'
Mae'r cyngor yn dweud bod yna 1000 yn llai o blant yng Ngheredigion nag oedd degawd yn ôl.
Mae'r cynghorydd Rhodri Evans yn gwrthwynebu'r cynlluniau.
"Mae llawer o wrthwynebiad i'r cynlluniau cau ym mhob un o'r cymunedau sy'n cael eu heffeithio," meddai.
"Ysgolion yw canol y gymuned ac os ydynt yn cau, mae'n niwed i'r gymuned.
"Mae pobl yn dod i fyw mewn cymuned oherwydd bod ysgol ac mae'r ysgol yn rhoi bywyd i'r gymuned."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion eu bod wedi ymrwymo i roi system addysg gynaliadwy yn ardal Tregaron.
Straeon perthnasol
- 2 Hydref 2013
- 23 Mai 2013
- 15 Ionawr 2013