Codi gwaharddiad cig eidion
- Cyhoeddwyd

Mae undeb amaethwyr wedi croesawu'r penderfyniad i godi gwaharddiad ar gig eidion o Brydain yn yr Unol Daleithiau.
Mae'r penderfyniad gan adran amaeth yr UDA yn golygu bydd cig eidion o'r Undeb Ewropeaidd yn cael mynd i America am y tro cyntaf ers 15 mlynedd.
Cafodd y cig ei wahardd oherwydd pryderon am glefyd BSE mewn gwartheg yn y 1990au.
Bydd y gwaharddiad yn cael ei godi yn swyddogol yn gynnar y flwyddyn nesaf, ac mae undeb yr FUW wedi dweud ei fod yn hwb i'r diwydiant.
"Mae hyn yn newyddion gwych, nid yn unig i'r diwydiant cig eidion, ond i ni ffermwyr Cymreig," meddai Dafydd Roberts, cadeirydd y pwyllgor anifeiliaid, gwlân a marchnadoedd.
"Gall allforion cig eidion a chig oen i'r UDA fod werth mwy na £60m y flwyddyn ond wrth gwrs bydd yn cymryd ychydig o amser i ddangos i America ein bod yn cynhyrchu cig o safon uchel yn y wlad yma."
Dywedodd Mr Roberts bod codi'r gwaharddiad wedi bod yn un o brif amcanion yr undeb mewn cyfarfodydd blynyddol gydag adran amaeth yr UDA.
Y gobaith yw y bydd y penderfyniad yn galluogi i'r undeb greu perthynas newydd gyda phrynwyr ar draws yr Iwerydd.
"Mae angen i ni sicrhau bod ein dulliau profi cig yn cael eu hadnabod gan yr UDA, ond unwaith y bydd hynny'n digwydd rydw i'n gobeithio y bydd bobl yn America yn mwynhau cig eidion o Gymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2013
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2013