Gwrthdrawiad yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y gwrthdrawiad yn agos i Ysbyty Athrofaol Caerdydd lle mae'r gyrrwr yn derbyn triniaeth
Mae'r heddlu yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad nos Lun sydd wedi gadael gyrrwr benywaidd mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Yn ôl Heddlu De Cymru fe ddigwyddodd y ddamwain ar Ffordd Allensbank yng ngogledd Caerdydd.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng Mercedes arian a Volkswagen Polo oedd hefyd yn arian am tua 7:35yh - mae gyrrwr y Mercedes yn helpu'r heddlu gyda'r ymchwiliad tra mae gyrrwr y Polo yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Mae cais i bobl all fod o gymorth ffonio'r heddlu ar 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.