Warren Gatland yn gwrthod cyfarfod Alain Rolland
- Cyhoeddwyd

Y dacl anffodus
Mae Warren Gatland yn bwriadu mynd yn erbyn y drefn drwy beidio â chwrdd ag Alain Rolland cyn y gêm brawf yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn.
Mae'n arferol i hyfforddwyr gyfarfod y dyfarnwr cyn gêm brawf er mwyn trafod sut bydd y chwarae'n cael ei reoli a'r dehongliad o'r rheolau rygbi.
Ond nid yw Gatland yn fodlon gweld Rolland, y dyfarnwr a ddangosodd gerdyn coch i gapten Cymru Sam Warburton yn eu gêm yn y rownd gyn-derfynol yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn 2011.
Ar y pryd dywedodd Gatland fod y penderfyniad wedi ei "frifo i'r byw".
Ond dywedodd Warburton yn ddiweddarach fod y penderfyniad i'w yrru oddi ar y cae am dacl beryglus ar Vincent Clerc yn gywir.
Bydd y gêm yn dechrau am 5:30yh ddydd Sadwrn, yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol