Heddlu'n darganfod corff dyn yn Llandudno
- Cyhoeddwyd
Mae corff dyn 44 oed wedi cael ei ddarganfod yn Llandudno, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.
Cafodd yr heddlu eu galw am 12:37yb gan y Gwasanaeth Ambiwlans wedi iddyn nhw ei ddarganfod yn Ffordd Llwynon.
Mae'r heddlu yn cynnal ymchwiliad er mwyn cael gwybodaeth am amgylchiadau'r farwolaeth.
Bydd y crwner yn cael ei hysbysu a bydd post mortem yn cael ei gynnal.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol