Cwest milwyr: Lladd anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi cofnodi rheithfarn o ladd anghyfreithlon yn achos y ddau filwr Prydeinig gafodd eu saethu mewn gwersyll yn Afghanistan.
Cafodd y Corporal Brent McCarthy, 25 oed o Telford yn Sir Amwythig, a'r Is-gorporal Lee Davies, 27 oed o'r Barri, eu lladd ar Fai 12, 2012 tra ar ddyletswydd.
Ganwyd yr Is-gorporal Davies yng Nghaerfyrddin a'i fagu yn Aberteifi.
Dywedodd y Cadlywydd Benjamin Bardsley fod y milwyr wedi digwydd bod "yn y lle anghywir ar yr adeg anghywir".
Hyfforddi
Roedd y milwyr yn nhalaith Helmand yn hyfforddi a'r ddau mynd i wersyll heddlu yn nhalaith Lashkar Gah er mwyn cyfarfod swyddogion lleol.
Yn fuan wedi iddyn nhw gyrraedd fe gafodd y ddau eu saethu gan ddau blisman o lu Afghanistan a buon nhw farw o'u hanafiadau.
Yn ôl Joshua Foley o'r Gwarchodlu Cymreig, roedd gan y grŵp "berthynas dda" gyda'r Afghaniaid ond dywedodd bod llu heddlu newydd wedi symud i'r gwersyll y diwrnod hwnnw, a bod amryw o wynebau anghyfarwydd yno.
Wrth iddo sefyll gyda Davies a McCarthy fe gerddodd dau blisman Afghanaidd heibio ac roedd ymgais gan y milwyr i dynnu coes.
"Fe wnaethon ni geisio cael hwyl gyda nhw ond doedden nhw ddim i'w weld yn deall," meddai'r Gwarchodwr Foley wrth y cwest.
Lluniau
Fe dynnodd y milwyr luniau gyda chamera cyn i'r Is-Gorporal Davies wneud sylw dilornus am un o'r Afghaniaid, yn ôl y Gwarchodwr Foley.
Dywedodd ei fod yn credu na chlywodd y dynion y sylw na chwaith eu bod yn deall Saesneg.
Fe adawodd Foley y ddau filwr i fynd i weithio ar un o dyrau'r gwersyll. Yna clywodd y saethu.
"Clywais nifer o ergydion a phan edrychais i roedd y ddau blisman yn dal eu harfau a'r Is-Gorporal Davies yn gorwedd ar ei gefn," meddai'r Gwarchodwr Foley.
"Welais i ddim un ohonyn nhw'n saethu ond fe redodd y ddau allan o'r brif fynedfa."
'Milwyr rhyfeddol'
Dywedodd y Cadlywydd Bardsley bod y ddau yn filwyr "rhyfeddol o dda".
"Dydw i ddim yn gwybod pam oedd ymosodiad ar y ddau - mae'n bosib bod y Taliban wedi dylanwadu arnyn nhw ...
"Rydw i'n siŵr nad unrhyw beth wnaeth y milwyr oedd y rheswm."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2012
- Cyhoeddwyd14 Mai 2012