Carfan nofio Gemau'r Gymanwlad yn cynnwys cyn fedalwyr
- Cyhoeddwyd

Jazz Carlin: "Roedd sefyll ar y podiwm yn Delhi yn foment falch i mi, a'r nod yw gwneud yr un peth yn Glasgow"
Mae carfan nofio Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow flwyddyn nesa' wedi ei chyhoeddi.
Mae'n cynnwys tair, Jazz Carlin, Jemma Lowe a Georgia Davies, sydd eisoes wedi ennill medalau yn y gemau.
Thomas Haffield, Robert Holderness, Ieuan Lloyd a Marco Loughran sy'n cwblhau'r garfan o saith.
Y garfan nofio ydy'r un gyntaf i ddewis cynrychiolwyr Cymreig ar gyfer y flwyddyn nesa'.