Gwasanaeth gofal 'yn anghynaladwy'

  • Cyhoeddwyd
Adam Cairns
Disgrifiad o’r llun,
Adam Cairns: maint yr arbedion ariannol sydd angen eu gwneud ynghyd ag effaith y bil cyflogau ar y gyllideb gyfan yn golygu y byddai'n "ddeallusol anonest" i esgus na fyddai yna effaith ar niferoedd staff.

Mae toriadau'n golygu mai ysbytai yw'r unig leoedd all gynnig y gofal 24 awr y dydd saith diwrnod yr wythnos sydd ei angen ar rai pobl oedrannus, yn ôl un o swyddogion Llywodraeth Cymru.

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, clywodd ACau'r gwasanaeth gofal yn cael ei ddisgrifio fel anaddas i'r pwrpas ac anghynaladwy yn y tymor hir.

Yn y cyfamser, mae prif weithredwr un o fyrddau iechyd mwyaf Cymru wedi amddiffyn cynllun fydd yn golygu bod dros 400 o swyddi'n diflannu, gan gynnwys hyd at 40 o ddiswyddiadau gorfodol.

Rhybuddiodd Adam Cairns o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fod cytundebau'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn diogelu cyflogau am hyd at 15 mlynedd, trefniant sydd ymhell y tu hwnt i'r hyn yn Lloegr.

Dadl

Dywedodd fod hyn yn ei gwneud hi'n anos gwneud arbedion trwy weithio hyblyg ac fe ddywedodd y dylid cael dadl Cymru-gyfan ynghylch newid telerau ac amodau gweithwyr ym maes iechyd.

Gofynnodd ACau am sicrwydd na fyddai gaeaf caled arall yn gwthio'r Gwasanaeth Iechyd i drafferthion difrifol, gan gynnwys canslo miloedd o lawdriniaethau, fel y digwyddodd y llynedd.

Dywedodd Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, David Sissling, fod cynlluniau a ddatblygwyd ers mis Mai wedi eu profi i sicrhau eu bod nhw'n rhai cadarn.

Ond dywedodd ei ddirprwy, Kevin Flynn, fod yna broblemau yn y system, rhai sydd wedi eu gwreiddio'n ddwfn ac wedi eu gwaethygu gan doriadau sy'n ei gwneud hi'n anodd darparu gofal cynhwysfawr ar gyfer pobl hŷn.

'Systemig'

Dywedodd: " Yr anhawster yw oherwydd hinsawdd economaidd anodd ymhobman ar hyn o bryd ... yn anochel, yr unig system a wnaiff eu cymryd nhw (cleifion oedrannus) 24/7 yw'r system ambiwlans ac ysbytai.

"Felly mae'n broblem systemig i ble mae'r bobl yma'n mynd.

"Ar unrhyw bwynt cyn hynny, o fewn gwahanol systemau, fe allem, mae'n debyg, fod wedi ymyrryd er mwyn sicrhau nad oedden nhw'n cyrraedd yr ysbyty.

"Her gofal sydd heb ei amserlennu sut allwn ni sicrhau bod y pethau yna'n digwydd, ac nid mater iechyd yn unig yw e, mae'n fater cymdeithasol - sut ydyn ni'n edrych ar ôl ein cymdogion ac yn y blaen."

Rhybuddiodd Mr Flynn fod arosiadau hwy yn yr ysbyty ar gyfer pobl hŷn yn effeithio ar lawdriniaethau sydd wedi eu hamserlennu.

Pryderon

Dywedodd y byddai person oedrannus yn yr ysbyty ar ôl torri clun fel arfer yn aros yr ysbyty am bythefnos, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe fyddai'r gwely wedi ei ddefnyddio gan gleifion a oedd wedi cael pum llawdriniaeth wahanol.

Lleisiodd ACau eu pryderon am gynlluniau dadleuol i gael gwared â 400 o swyddi ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro rhwng nawr a Mawrth 2014.

Ond dywedodd y prif weithredwr Mr Cairns fod maint yr arbedion ariannol sydd angen eu gwneud ynghyd ag effaith y bil cyflogau ar y gyllideb gyfan yn golygu y byddai'n "ddeallusol anonest" i esgus na fyddai yna effaith ar niferoedd staff.

Dywedodd mai dim ond rhwng 20 a 40 o'r rhain fyddai'n ddiswyddiadau gorfodol a mynnodd fod trafodaethau adeiladol yn mynd rhagddynt gyda'r undebau.

Mae Mr Cairns yn credu bod angen trafodaeth ar draws Cymru ar delerau ac amodau cytundebau yn Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

15 mlynedd

Os yw gweithiwr Gwasanaeth Iechyd yn symud i swydd ble mae angen llai o sgiliau, dywedodd fod ei gytundeb yn diogelu ei gyflogau gwreiddiol am hyd at 15 mlynedd mewn rhai achosion, o'i gymharu â thua dwy flynedd yn Lloegr.

"Felly gallwch wneud newid, gallwch gwblhau'r holl dasgau anodd sydd ynghlwm wrth hynny ond, o safbwynt cost, does dim yn digwydd am 15 mlynedd," meddai.

"Nid dyna beth sy'n digwydd yn Lloegr, mae'r trefniadau hynny'n wahanol ... felly gallech weld effeithiau'r arbedion cost hynny yn gynt na'r rhai yng Nghymru".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae £150m ychwanegol yn y gyllideb ddiweddaraf er mwyn ymateb i ofal heb ei amserlenni a phwysau eraill ...

"Serch hynny, er mwyn darparu cynaladwyedd yn y tymor hir rydym yn anelu at integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol fel y gall cleifion gael gofal o ansawdd uchel."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol