BBC Cymru Fyw

Diffoddwyr tân i streicio eto

Published
image captionHon fydd y bedwaredd streic i gael ei chynnal ers 25 Medi

Mae diffoddwyr tân wedi cyhoeddi eu bod am gynnal streic arall ar ddydd Mercher, Tachwedd 13.

Cynhaliwyd dwy yn barod ers dechrau mis Tachwedd ac roedd un arall eisoes wedi bod yn ystod mis Medi.

Y rheswm dros y gweithredu yw anghydfod dros delerau gwaith a phensiynau.

Mae llywodraeth San Steffan yn bwriadu codi oed ymddeol diffoddwyr o 55 i 60, ac yn mynnu bod y gweithredu diwydiannol yn "gwbl ddiangen".

Ond mae'r undeb yn dweud bod 60 yn rhy hen i fod yn brwydro tanau, ac y bydd eu haelodau'n wynebu cael eu diswyddo os fyddan nhw'n methu profion ffitrwydd.

Straeon perthnasol

  • Streic ddwy awr gan ddiffoddwyr