Marwolaeth yn dilyn ymosodiad carw
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru ar ddeall bod dyn a ddioddefodd ymosodiad gan garw yr wythnos diwethaf wedi marw yn yr ysbyty.
Bu farw Kenneth Price yn uned gofal dwys Ysbyty Treforys yn Abertawe.
Cafodd yr ambiwlans awyr ei alw i Saron ger Llandysul fore Iau diwethaf, a bu'n rhaid i staff yr ambiwlans gyflawni llawdriniaeth ar Mr Price yn y fan a'r lle cyn ei gludo i'r ysbyty.
Roedd ganddo anafiadau difrifol a niferus.
Deellir fod Mr Price yn ffermwr defaid profiadol a oedd wedi arallgyfeirio'n ddiweddar i ffermio ceirw'n ogystal.
Mae swyddfa crwner Abertawe, Howard Davies, wedi cadarnhau eu bod wedi eu hysbysu o farwolaeth Mr Price.
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) hefyd wedi cadarnhau eu bod yn ymwybodol o'r digwyddiad a'u bod yn cynnal ymchwiliadau cychwynnol.
Bydd yr ymchwiliad i'r farwolaeth yn dechrau naill ai dydd Mercher neu fore Iau, ond fe fydd yr ymchwiliad yn cael ei drosglwyddo i grwner Sir Benfro a Sir Gaeryfyrddin Mark Layton.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2013