Carchar am ymosod ar ferch yn ei chwsg
- Cyhoeddwyd

Mae troseddwr rhyw a afaelodd yng ngwddf merch 10 oed wrth iddi gysgu yn ei gwely wedi cael ei garcharu am bedair blynedd.
Cafodd Darrell Mercer, 28 oed o Brestatyn, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug wedi ei gael yn euog o dresmasiad gyda'r bwriad o gyflawni trosedd rhyw ym mis Ebrill.
Dywedodd y barnwr bod y profiad wedi cael effaith dirdynnol ar y ferch fach.
Fe sgrechiodd y ferch, gan ddeffro ei mam a oedd i lawr grisiau pan glywodd drws y tŷ yn agor.
'Ben i waered'
Dywedodd y Barnwr Paul Thomas QC: "Fe aethoch chi i lofft y ferch fach er mwyn ymosod yn rhywiol arni.
"Roedd effaith yr hyn a wnaethoch i'r ferch fach yn ddirdynnol.
"Nid yw bellach yn teimlo'n ddiogel yn ei chartref ei hun, mae hi am symud ac mae'n cael hunllefau yn gyson.
"Rydych wedi troi ei bywyd ben i waered. Gallaf ond gobeithio y bydd amser yn gwella'r sefyllfa."
Ychwanegodd y barnwr nad dyma'r tro cyntaf i Mercer ymosod ar ferch fach. Roedd gwrandawiad blaenorol wedi clywed ei fod wedi ei gael yn euog o ymosod yn anweddus ar ferch naw oed yn 2002.
Yn ogystal â dedfryd o garchar am bedair blynedd, cafodd Mercer ei roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am weddill ei oes.
Roedd Mercer wedi cyfaddef iddo afael yn y ferch gerfydd ei gwddf a'i harddwrn.