Saethu Casnewydd: Arestio dyn

  • Cyhoeddwyd
Caroline Parry
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Caroline Parry o'i hanafiadau wedi'r saethu

Mae gŵr y ddynes cafodd ei saethu yn farw yng Nghasnewydd ym mis Awst wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Cafodd Caroline Parry, 46, ei saethu mewn digwyddiad yn Seabreeze Avenue ar Awst 8.

Roedd Christopher Parry, 49, wedi dioddef anafiadau difrifol i'w ben yn y digwyddiad.

Roedd Mr Parry wedi bod yn rhy wael i gael ei holi gan yr heddlu wedi'r digwyddiad, ond daeth cadarnhad bod yr heddlu bellach yn ei holi am y saethu.

Anafiadau difrifol

Cafodd Mrs Parry a'i gwr, oedd wedi gwahanu, eu darganfod gydag anafiadau difrifol am 8:45am ar ddiwrnod y digwyddiad, wedi i gymdogion glywed saethu.

Dywedodd cymdogion iddyn nhw glywed tair ergyd o wn cyn canfod y ddau'n gorwedd ar lawr.

Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent lle bu farw Mrs Parry yn ddiweddarach.

Daeth yr heddlu o hyd i wn ar y safle, a tri arall yng nghartref Mr Parry.

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu'n edrych ar rôl yr heddlu cyn y saethu, yn benodol mewn tri achos rhwng Mai a Gorffennaf pan gafodd yr heddlu eu galw.