Trafod cais parc gwyliau Land & Lakes ar Ynys Môn eto

  • Cyhoeddwyd
Land & Lakes
Disgrifiad o’r llun,
Penderfynodd y pwyllgor wrthod cymeradwyo'r cynllun ym mis Hydref oherwydd pryder am yr effaith amgylcheddol

Bydd cais dadleuol i adeiladu parc gwyliau ar Ynys Môn yn cael ei drafod unwaith eto yn ddiweddarach, wedi i'r cynllun gael ei wrthod fis diwethaf.

Mae cwmni Land & Lakes eisiau adeiladu parc gydag 800 o letyau, fydd yn creu 600 o swyddi, yn ôl y cwmni.

Cafodd y cynllun ei wrthod y tro diwethaf, a hynny yn erbyn cyngor swyddogion, felly bydd yn cael ei drafod unwaith eto.

Mae Land & Lakes wedi dweud eu bod yn bwriadu apelio os na fydd y penderfyniad yn cael ei newid.

Byddai'r datblygiad yn cael ei leoli ar dri safle ger Caergybi - ym Mhenrhos, Cae Glas a Kingsland .

Byddai'r prif safle ym mhentref Penrhos yn cynnwys 500 o letyau, parc dŵr a chyfleusterau hamdden.

Byddai'r llety yng Nghae Glas yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithwyr fydd yn adeiladu gorsaf pŵer Wylfa B, cyn cael ei droi yn westai a chaeau chwarae.

Yn ôl y cynllun, byddai rhai o'r bythynnod yn Kingsland yn cael eu defnyddio i weithwyr adeiladu'r parc, cyn troi rhai yn dai preswyl.

Disgrifiad o’r llun,
Mae'r safle yng Nghae Glas yn un o'r rheiny sy'n cael eu hystyried fel rhan o'r cynllun

Gwrthod

Ym mis Hydref, pleidleisiodd cynghorwyr y pwyllgor cynllunio o bump i ddau yn erbyn cymeradwyo'r parc, gyda dau yn ymatal eu pleidlais.

Er bod swyddogion wedi argymell cymeradwyo'r parc, roedd cynghorwyr yn poeni am effaith y datblygiad ar yr Ardal o Harddwch Eithriadol Naturiol, a'r perygl o or-ddatblygu cefn gwlad.

Dywedodd Cyngor Môn bod swyddogion wedi argymell y dylai cymeradwyo'r cynllun eto y tro hwn, oherwydd y budd economaidd i'r ardal.

Wedi'r penderfyniad gwreiddiol, dywedodd prif weithredwr Land & Lakes, Richard Sidi, mai apêl fyddai'r cam olaf.

"Mae'r penderfyniad yn sioc wedi tair blynedd o weithio gyda swyddogion cynllunio oedd wedi gosod amodau eang," meddai wrth BBC Cymru.

"Rydw i hefyd wedi fy synnu hefo ymateb pobl leol. Rydym ni wedi cael bron i 100 o bobl yn gofyn i ni beidio â rhoi'r gorau i'r cynllun."

Mae'r cynllun wedi bod yn fater dadleuol yn yr ardal, gyda rhai yn awyddus i weld datblygiad economaidd i greu swyddi yn lleol.

Ond mae eraill wedi datgan eu pryder, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith, sy'n poeni am yr effaith ar yr iaith Gymraeg, ac ymgyrchwyr lleol sy'n poeni am yr effaith ar gefn gwlad.