Cynnig mesur galwadau niwsans

  • Cyhoeddwyd
Galwad ffôn
Disgrifiad o’r llun,
Mae Alun Cairns am weld newid yn y drefn i leihau nifer y galwadau niwsans

Bydd aelod seneddol yn cyflwyno mesur newydd ddydd Mercher i geisio rhoi mwy o bŵer i bobl yn erbyn derbyn galwadau ffôn di-wahoddiad, neu alwadau niwsans.

Mae Aelod Seneddol Bro Morgannwg, Alun Cairns eisiau gorfodi cwmnïau sy'n gwneud galwadau o'r fath i arddangos eu rhifau ffôn.

Yn ôl Mr Cairns, gallai'r ffaith fod y cwmnïau'n arddangos eu rhifau ei gwneud hi'n haws i bobl wneud cwyn.

Ond byddai rhai sefydliadau yn cael yr hawl i guddio eu rhifau, a hynny dan reolaeth OFCOM.

Dim cuddio

Os yn llwyddiannus, byddai'r mesur yn gorfodi pob rhif sydd ddim yn ddomestig, fel cwmnïau sy'n gwerthu nwyddau neu wasanaethau dros y ffôn, i ddangos eu rhif wrth gysylltu ag unigolion.

Byddai hefyd yn sicrhau bod cwmnïau ffôn yn darparu'r gwasanaeth yma am ddim.

Daw'r mesur wedi adroddiad gan grŵp seneddol, gafodd ei gyd-gadeirio gan Alun Cairns, oedd yn rhoi nifer o argymhellion ar sut i leihau'r nifer o alwadau niwsans mae pobl yn eu derbyn.

Dywedodd Mr Cairns: "Mae hi bron yn amhosib gwneud cwyn am alwadau niwsans heb wybod rhif y galwr.

"Byddai'r mesur yma yn ei gwneud hi'n haws i gwyno a rhoi'r pŵer i bobl ddewis a ydynt am dderbyn galwad neu beidio.

"Byddai hefyd yn rhoi mwy o dystiolaeth i'r rheoleiddwyr i roi dirwy i'r rheiny sy'n torri'r rheolau."

'Newid y drefn'

Ond byddai'r mesur yn caniatáu i OFCOM reoli bas data o ddefnyddwyr fydd wedi eu heithrio.

Mae'r rhain yn cynnwys yr heddlu neu rhai elusennau.

"Pan ddaeth y gwasanaeth adnabod galwr i rym roedd pob rhif yn cael ei ddangos. Nawr, mae'r rhan fwyaf o fudiadau - gan gynnwys y Senedd - yn ei guddio," meddai'r AS.

"Mae hi'n gywir ac yn deg bod rhai elusennau fel Cymorth i Ferched neu'r heddlu yn gallu cuddio eu rhifau, ond dylai hynny fod yn eithriad, ac nid yr arfer."

Bydd y mesur yn cael ei gyflwyno yn San Steffan yn ddiweddarach ddydd Mercher.