Cymdeithasau tai yn 'hwb i'r economi'
- Cyhoeddwyd

Mae cymdeithasau tai yng Nghymru wedi hybu'r economi drwy wario miliynau o bunnoedd y llynedd, yn ôl ymchwil newydd.
Dywed adroddiad ar ran Cartrefi Cymunedol Cymru bod £1 biliwn wedi ei wario gan gymdeithasau tai yng Nghymru yn 2012/13.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod dros 80% o'r gwariant yma wedi aros yng Nghymru, gan roi hwb o £840 miliwn i'r economi.
Dywedodd prif weithredwr grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru, Nick Bennett, bod y ffigyrau'n dangos gwir werth cymdeithasau tai i Gymru.
£1 biliwn
Cafodd yr ymchwil ei gynnal fel rhan o waith diweddaraf yr Uned Ymchwil Economaidd Cymreig (WERU), sy'n astudio effaith ehangach y sector tai ar economi Cymru.
Daeth i'r canlyniad bod gwariant a chyfleoedd gwaith yn ymwneud â thai ac adeiladu yn cyfrannu yn sylweddol i'r economi.
Cafodd £1.034 biliwn ei wario gan gymdeithasau tai Cymru'r llynedd, sy'n gynnydd o 8.7% ar y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
'Mwy 'na brics a morter'
Cafodd 30% o'r arian ei wario ar atgyweirio a gwella tai, tra bod chwarter wedi ei wario ar adeiladu tai fforddiadwy newydd.
Mae tua 8,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn uniongyrchol gan gymdeithasau tai yng Nghymru, ac mae llawer mwy yn cael eu cyflogi yn anuniongyrchol.
Mae Mr Bennett yn dweud bod yr adroddiad yn dangos bod cymdeithasau tai yn "werth mwy na brics a morter".
"Does dim amheuaeth bod buddsoddiad gan y sector yn helpu i greu economi iach yng Nghymru," meddai.
"Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi rhoi miliynau o bunnoedd i mewn i economi Cymru ac rydym yn parhau i feddwl am fuddsoddi ar gyfer y dyfodol, i chwarae rhan bwysig yn economi Cymru a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu."
Straeon perthnasol
- 27 Medi 2013
- 31 Gorffennaf 2013