Pryder asbestos: Tân ar safle ailgylchu ym Mro Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Y tanFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y gwasanaeth tân ei galw am 7.20pm nos Fawrth

Mae'r heddlu yn rhybuddio trigolion ger canolfan ailgylchu ym Mro Morgannwg i gau eu drysau a ffenestri oherwydd pryder fod asbestos yn llosgi.

Yn ôl swyddogion, fe allai'r tân ar safle Siteserv yn Ystâd Ddiwydiannol Llandŵ, losgi am ddeuddydd.

Dechreuodd y tân am 7:20yh nos Fawrth a chafodd 45 o swyddogion eu hanfon i'r safle.

Does dim cadarnhad o achos y tân eto ond mae disgwyl i ymchwilwyr archwilio'r safle ddydd Mercher.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: "Mae'r adeilad sydd ar dân ag asbestos yn y to ac, fel mesur diogelwch, rydym yn gofyn i drigolion o fewn dwy filltir i'r safle, yn enwedig i gyfeiriad Llanilltud Fawr a Southerndown, i gadw eu drysau a'u ffenestri ynghau."

Mae'r tân hefyd wedi effeithio ar fusnesau ger y ganolfan. Mae cwmni masnach adeiladu Keyline wedi penderfynu cau am y diwrnod.

Yn ôl y rheolwr gwerthu, Adrian Chilcott doedden nhw ddim yn gwybod dim am y tân tan fore Mercher.

"Doedden ni ddim yn gwybod am y peth nes i'r rheolwr ddod i'r gwaith am chwarter i saith bore ma ac mi oedd na fwg ymhob man.

"Mi wnaethon ni gynnal asesiad risg ac o achos pryder am ronynnau asbestos dy ni wedi penderfynu cau am y diwrnod. Rydyn ni yn trio symud gymaint o'n staff a phosib i'n swyddfeydd eraill yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol