Gwahardd athrawes a ofynnodd i ddisgybl am ryw

  • Cyhoeddwyd
Lindsay BlackFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Lindsay Black wedi anfon negeseuon o natur rywiol at ddisgybl ac wedi siarad am ryw gyda'i dosbarth drama

Mae athrawes ddrama wedi cael ei thynnu oddi ar y gofrestr ddysgu ar ôl gofyn i ddisgybl gael rhyw gyda hi.

Roedd Lindsay Black, 28, wedi anfon negeseuon testun, e-byst a negeseuon Facebook at y llanc 17 oed yn gofyn iddo gwrdd â hi i gael rhyw ar ôl ei wersi yn Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseff yng Nghasnewydd.

Clywodd panel disgyblu yng Nghaerdydd fod Miss Black hefyd wedi siarad yn "amhriodol" gyda disgyblion yn ei dosbarth, gan gyfeirio at "faterion rhywiol".

Gofynnodd i'w dosbarth chweched "pwy oedd yn wyryf?"

Galwodd hefyd ar i ddisgyblion oedd ddim wedi cael rhyw i sefyll fyny yn y dosbarth, a gofynnodd iddynt a oeddynt wedi cyflawni gweithredoedd rhywiol penodol.

Yn ogystal, gofynnodd y gyn athrawes i ddisgyblion esgus eu bod yn cyflawni gweithredoedd rhyw yn y dosbarth.

Facebook

Clywodd y gwrandawiad fod y llanc, Disgybl A, wedi dangos neges destun gan Miss Black i ddisgyblion eraill.

Dywedodd Abigail Watts, athrawes Saesneg yn yr ysgol: "Fe glywais sylwadau gan ddisgyblion eraill am Miss Black yn hoffi disgyblion ac fe ofynnais beth oedd hyn yn ei olygu.

"Dywedon nhw ei bod wedi bod yn anfon negeseuon Facebook at Ddisgybl A - dywedodd wrtho ei bod wedi breuddwydio am gael rhyw gydag e.

"Wnaethon nhw ddim cwrdd, ond roedden nhw wedi siarad am y peth."

Roedd Miss Black, a oedd wedi'i hyfforddi fel actores, wedi cwrdd â'r disgybl tra'n gweithio dros dro ar gytundeb mamolaeth yn yr ysgol.

Yn wreiddiol roedd hi wedi cysylltu ar Facebook yn holi am ei waith cwrs, ond yna dechreuodd anfon negeseuon testun yn sôn am ryw ac alcohol.

'Themâu rhywiol'

Dywedodd aelod arall o staff yr ysgol, Sandra Davies: "Roedd disgyblion yn dweud wrtha' i fod Miss Black yn siarad am ryw yn ystod y gwersi drama ac yn troi at themâu rhywiol.

Clywodd y gwrandawiad fod gwaith ysgol Disgybl A wedi diodde' oherwydd y sefyllfa, a'i fod wedi gorfod ailsefyll ei arholiadau AS.

Cafodd ei holi gan yr heddlu yn dilyn yr honiadau yn 2011 ond wnaeth hynny ddim arwain at unrhyw gamau pellach.

Fe gyfaddefodd Miss Black iddi gynnal sgyrsiau amhriodol a rhywiol gyda disgybl ar wefan gymdeithasol Facebook.

Ond gwadodd ei bod wedi siarad gyda'r dosbarth am ryw.

Ond daeth y panel i'r casgliad ei bod wedi cynnal sgyrsiau o'r fath gyda disgyblion drama blwyddyn 12.

Penderfynodd y panel fod ymddygiad Miss Black yn annerbyniol ac y dylai gael ei gwahardd rhag dysgu.

Meddai cadeirydd y pwyllgor, Peter Williams: "Roedd yr ymddygiad dan sylw wedi effeithio'n ddifrifol ar ddisgyblion ac nid oedd yn achos unigol.

"Dyw gweithredoedd Black ddim yn cydfynd gyda'r hyn sy'n ddisgwyliedig gan athrawes gofrestredig."